Premium
Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol
Author(s) -
Newton Nigel
Publication year - 2020
Publication title -
the curriculum journal
Language(s) - Romanian
Resource type - Journals
SCImago Journal Rank - 0.843
H-Index - 36
eISSN - 1469-3704
pISSN - 0958-5176
DOI - 10.1002/curj.54
Subject(s) - physics
Yn dilyn tueddiadau ar draws y byd datblygedig i ddatganoli pŵer a chyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus i asiantaethau mwy lleol, mae diwygiadau i gwricwla mewn nifer o wledydd wedi’u nodweddu gan bolisïau sydd â’r bwriad o gynyddu galluedd a phroffesiynoldeb athrawon fel modd i sicrhau newid llwyddiannus. Yng Nghymru, mae’r dull hwn wedi’i hyrwyddo drwy fabwysiadu egwyddor sybsidiaredd. Cyflwynir pedwar rheswm cydgysylltiedig dros ei defnyddio wrth ddatblygu cwricwlwm newydd. Gellir crynhoi’r rhain fel a ganlyn: y bydd yn hybu proffesiynoldeb athrawon; yn sbarduno gwelliannau mewn addysgu; yn gwneud ysgolion yn fwy ymatebol i anghenion lleol a chenedlaethol; yn arwain at fwy o hyder yn y diwygiadau. Mae’r papur hwn yn edrych ar y graddau y mae’r pedwar cyfiawnhad hyn wedi’u hadlewyrchu ym mhrofiadau athrawon o ddatblygu’r cwricwlwm mewn ysgolion sy’n cymryd rhan yn y broses sy’n arwain ar ddiwygio’r cwricwlwm. Mae’n dangos, drwy dynnu ar ddata o 10 cyfweliad manwl lled‐strwythuredig ac arolwg o fwy na 600 o athrawon, fod croeso cyffredinol i egwyddor sybsidiaredd ond nad yw’n glir o bell ffordd a yw’n bodloni’r meini prawf a gyflwynwyd i’w chyfiawnhau. Trafodir cwestiynau ynghylch cymhwyso egwyddor sybsidiaredd at ddiwygio cwricwla.
Accelerating Research
Robert Robinson Avenue,
Oxford Science Park, Oxford
OX4 4GP, United Kingdom
Address
John Eccles HouseRobert Robinson Avenue,
Oxford Science Park, Oxford
OX4 4GP, United Kingdom