z-logo
Premium
‘Nid yw wedi’i fwriadu i gael ei asesu yn y ffordd rydyn ni’n asesu’: Ailfeddwl am asesu ar gyfer cymhwyster yng nghyddestun gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru
Author(s) -
Titley Elizabeth,
Davies Andrew James,
Atherton Stephen
Publication year - 2020
Publication title -
the curriculum journal
Language(s) - Spanish
Resource type - Journals
SCImago Journal Rank - 0.843
H-Index - 36
eISSN - 1469-3704
pISSN - 0958-5176
DOI - 10.1002/curj.53
Subject(s) - physics , chemistry
Mae’r papur hwn yn adrodd am bersbectifau athrawon a dysgwyr ar y ffordd y mae asesu a diwygio’n dylanwadu ar arferion ac ymddygiadau addysgegol. Cynhaliwyd yr ymchwil yng nghyd‐destun diwygio polisi, mewn cyfnod pan oedd y manylebau diwygiedig ar gyfer TGAU yng Nghymru wedi cael eu gweithredu, a phan oedd dysgwyr yn paratoi ar gyfer eu hasesiadau; ond hefyd yn ystod cyfnod y dadlau ynghylch datblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru, sydd wedi mabwysiadu safbwynt gwahanol a gwrthgyferbyniol ar asesu o’i gymharu â’r rhagdybiaethau a oedd yn sail i’r diwygiadau i gymwysterau TGAU yng Nghymru a weithredwyd o 2015. Felly mae’r data hyn yn cynnig mewnwelediadau unigryw i’r dibenion a chyfyngiadau mewn dwy system wrthgyferbyniol iawn mewn cyfnod o newid sylweddol, sy’n cynnig ffyrdd o feddwl am y cwricwlwm presennol a’r arferion asesu ar ei gyfer, yn ogystal â dadansoddiad amcanol o’r modd y byddai’r egwyddorion sy’n sail i’r cwricwlwm newydd yn gallu herio’r rhagdybiaethau a chonfensiynau presennol hyn. Mae canfyddiadau’n awgrymu bod y system y mae athrawon a dysgwyr ynddi ar hyn o bryd yn un wedi’i seilio ar asesu sy’n ysgogi arferion perfformiadol mewn addysgeg ac yn cael ei rheoli gan atebolrwydd allanol; a bod yr arferion hyn yn groes i’r egwyddorion asesu sydd wedi’u cyfleu yn Dyfodol Llwyddiannus . O ganlyniad i hyn, roedd athrawon yn yr astudiaeth hon wedi mynegi ansicrwydd ynghylch y posibilrwydd o gysoni asesu at ddibenion ardystio TGAU ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.

This content is not available in your region!

Continue researching here.

Having issues? You can contact us here
Accelerating Research

Address

John Eccles House
Robert Robinson Avenue,
Oxford Science Park, Oxford
OX4 4GP, United Kingdom