z-logo
Premium
Cynnydd dysgu yn y dyniaethau: canfod tensiynau wrth gyfleu cynnydd yn y dyniaethau yng Nghymru
Author(s) -
Hughes Sioned,
Makara Kara,
Stacey Dave
Publication year - 2020
Publication title -
the curriculum journal
Language(s) - Spanish
Resource type - Journals
SCImago Journal Rank - 0.843
H-Index - 36
eISSN - 1469-3704
pISSN - 0958-5176
DOI - 10.1002/curj.51
Subject(s) - physics
Mae’r papur hwn yn edrych ar y tensiynau sy’n codi wrth gyfleu cynnydd mewn dysgu yn nisgyblaethau’r Dyniaethau. Ar sail ein hadolygiad o ymchwil yn nisgyblaethau’r Dyniaethau, cwricwla rhyngwladol ar gynnydd yn y meysydd hyn a myfyrdodau o weithgarwch proffesiynol ym ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ y Dyniaethau, sydd newydd gael ei ddiffinio yn y Cwricwlwm i Gymru newydd, mae’r papur hwn yn disgrifio sut mae cynnydd dysgu yn y Dyniaethau wedi’i gysyniadoli yn y cwricwlwm newydd ac wedyn yn amlinellu ac yn adolygu’n feirniadol bedair her a gododd wrth ganfod a disgrifio’r cynnydd dysgu yng nghwricwlwm newydd y Dyniaethau. Mae’r tensiynau’n cynnwys y berthynas rhwng disgyblaethau; y cydbwysedd rhwng gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd; y gwahaniaethau rhwng modelau cynnydd sylfaenol yn y Dyniaethau; a chydbwyso cymhlethdod y dysgu ag ystyriaethau ymarferol ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol. Drwy ddefnyddio’r Model Newid Integredd, mae’r papur hwn yn cyfrannu drwy gynnig mewnwelediadau newydd i agweddau eang ar gynnydd dysgu yn y Dyniaethau a thrwy dynnu sylw at y buddion a heriau dichonol o wneud penderfyniadau penodol mewn perthynas â phob un o’r tensiynau hyn. Trafodir goblygiadau sy’n codi mewn perthynas â chynllunio’r cwricwlwm ac ymchwil yn y dyfodol, yn cynnwys y rôl sylfaenol sydd gan ddysgu proffesiynol wrth ddatblygu a gweithredu’r cwricwlwm.

This content is not available in your region!

Continue researching here.

Having issues? You can contact us here
Accelerating Research

Address

John Eccles House
Robert Robinson Avenue,
Oxford Science Park, Oxford
OX4 4GP, United Kingdom