Premium
Tensiynau yn y broses bresennol o ddiwygio’r cwricwlwm a datblygu ymreolaeth broffesiynol athrawon
Author(s) -
Hughes Sioned,
Lewis Helen
Publication year - 2020
Publication title -
the curriculum journal
Language(s) - Romanian
Resource type - Journals
SCImago Journal Rank - 0.843
H-Index - 36
eISSN - 1469-3704
pISSN - 0958-5176
DOI - 10.1002/curj.48
Subject(s) - physics
Mae’r broses bresennol o ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru yn cynnig cyfle i athrawon gael mwy o ryddid i ddatblygu dulliau addysgegol sy’n cwrdd ag anghenion eu disgyblion. Mae’r adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yn argymell y dylai athrawon gael mwy o ymreolaeth wrth ddewis sut i ddarparu’r cwricwlwm, a sicrhau bod hynny’n cael ei wneud mewn ffordd sy’n ystyrlon a pherthnasol i’w disgyblion. Fodd bynnag, weithiau gall fod yn anodd cryfhau galluedd athrawon mewn perthynas ag addysgeg o ganlyniad, er enghraifft, i broblemau a welir mewn perthynas â llwyth gwaith ac atebolrwydd. Mae nifer o atebion parod ar gael i heriau a wynebir wrth ddiwygio’r cwricwlwm ac, mewn llawer achos, mae ysgolion yn ymateb i heriau o’r fath drwy ddefnyddio dulliau parod neu bwrpasol. Mae’r papur hwn yn edrych ar natur y tensiynau rhwng yr ymdrech i gryfhau cyfraniadau proffesiynol at ddiwygio’r cwricwlwm, ac i gynyddu ymreolaeth athrawon, a’r arferion proffesiynol presennol. Yn benodol, i ddangos enghraifft o’r tensiynau, mae’r papur yn ystyried sut a pham roedd un ysgol wedi dewis pecyn ymwybyddiaeth ofalgar fasnachol i gyfrannu i’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles sydd newydd gael ei ddiffinio, a’r goblygiad o’r dewis hwn i ymreolaeth athrawon ac ymarfer addysgegol.