z-logo
Premium
Persbectifau amlieithog: paratoi ar gyfer dysgu ieithoedd yn y cwricwlwm newydd i Gymru
Author(s) -
Gorrara Claire,
Jenkins Lucy,
Jepson Eira,
Llewelyn Machin Tallulah
Publication year - 2020
Publication title -
the curriculum journal
Language(s) - Spanish
Resource type - Journals
SCImago Journal Rank - 0.843
H-Index - 36
eISSN - 1469-3704
pISSN - 0958-5176
DOI - 10.1002/curj.46
Subject(s) - chemistry
Bydd yr erthygl hon yn edrych ar y lle ar gyfer dysgu ieithoedd yn y Cwricwlwm i Gymru newydd a’r gwerth sydd mewn dull ac ethos amlieithog. Ar ddechrau’r erthygl, amlinellir y cyd‐destun hanesyddol i addysgu ieithoedd tramor modern yn y Deyrnas Unedig. Wedyn trafodir y cyd‐destun i ddysgu ieithoedd yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar strategaeth bum mlynedd Llywodraeth Cymru Dyfodol Byd‐eang ar gyfer ieithoedd tramor modern (2015–2020). Bydd yr erthygl yn gwerthuso llwyddiant y strategaeth ieithoedd hon o ran delio â’r cyfraddau gadael cyn gorffen ar gyfer ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru. Bydd yr erthygl wedyn yn dadansoddi’r rhagdybiaethau am ddysgu ieithoedd yn y Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022, a welir ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu sy’n cynnwys y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Bydd yr erthygl hon yn dadlau bod yr ad‐drefnu hwn yn cynnig man cychwyn unigryw ar gyfer creu partneriaeth barhaus, drwy gydweithio rhwng cymunedau addysgu a dysgu ieithoedd sydd wedi bod ar wahân yn hanesyddol. Yn olaf, bydd yr erthygl hon yn rhoi sylw i brosiect mentora ieithoedd tramor modern sy’n enghraifft o ddull amlieithog o ddysgu ieithoedd. Ar y diwedd, bydd yr erthygl hon yn dadlau o blaid ailfeddwl yn uchelgeisiol am y ffordd rydym yn addysgu ieithoedd, yn synio am hynny ac yn ei drysori yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain.

This content is not available in your region!

Continue researching here.

Having issues? You can contact us here